Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 29 Ebrill 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.51 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) William Graham AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Sandy Mewies AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Gwnaeth Jenny Rathbone ddatgan buddiant fel Cadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan.
2 Papurau i'w nodi
3.1 Nodwyd y papurau.
2.1 Sesiwn ymadawol: Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru: Llythyr gan David Sissling (27 Mawrth 2014)
3 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru
3.1 Trafododd Aelodau'r ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunwyd i ystyried y wybodaeth a geir ganddo ym mis Mehefin a mis Medi. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater hwn yn dilyn memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru a gynlluniwyd ar y cynnydd a wnaed o ran lleihau'r diffyg ariannol ar hawliadau ac ar lansiad y fframwaith diwygiedig.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ariannu strwythurol yr UE: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru
5.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd.
5.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn ceisio ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.
5.3 Ar ôl i'r ymateb ddod i law, bydd y Pwyllgor yn ystyried a fydd yn cynnal ymchwiliad i'r mater hwn.
6 Arian cyhoeddus i Ganolfan Cywain – Y Bala Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru
6.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Arian cyhoeddus i Ganolfan Cywain – Y Bala.
6.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn ceisio ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.
6.3 Ar ôl i'r ymateb ddod i law, bydd y Pwyllgor yn ystyried a fydd yn cynnal ymchwiliad i'r mater hwn.
7 Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Trafod y wybodaeth bellach a'r camau nesaf
7.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb gan Gyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth a chytunwyd i ysgrifennu ato yn ceisio eglurhad pellach ar nifer o faterion.
8 Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod yr adroddiad drafft
8.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, trafododd yr Aelodau ran o'r adroddiad drafft a byddant yn dychwelyd at yr eitem hon mewn cyfarfod yn y dyfodol.